Finance Committee

Y Pwyllgor Cyllid

 

 

 

 

 

 

 

 

At: Ymgyngoreion

 

 

 

 

 Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

Tachwedd 2012

 

Cais am dystiolaeth – Rheoli Asedau  

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn galw am wybodaeth i gynorthwyo i lywio ei ymchwiliad i’r broses o Reoli Asedau.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn mabwysiadu dull gweithredu ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus, o dan ddau brif faes:

·         Y prosesau o ran rheoli ystâd Llywodraeth Cymru ei hun; a

·         Y canllawiau a’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru o ran rheoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, a’i gwaith yn hyrwyddo arferion da yn hyn o beth.

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu clywed eich barn am unrhyw rai o’r pwyntiau a ganlyn, neu bob un ohonynt:

·         A yw rheoli asedau yn gysylltiedig ag amcanion polisi ac amcanion strategol ehangach, yn Llywodraeth Cymru, a thrwy’r sector cyhoeddus yn ehangach?

·         Pa wersi a ellir eu dysgu, neu sydd wedi’u dysgu, o arferion da yng Nghymru, neu yn rhywle arall, ar hyn o bryd, o ran y modd y gellir gwella dulliau rheoli asedau yn y sector cyhoeddus.

·         Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i reoli asedau mewn modd strategol, a chyflwyno mentrau ar gyfer gwella effeithiolrwydd y dulliau o reoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru? 

·         Yn 2010, gwnaed yr argymhellion a ganlyn gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac o’ch profiad chi, i ba raddau y gwnaed cynnydd yn dilyn yr argymhellion hyn?

o   Dylai Llywodraeth Cymru hwyluso rheolaeth fwy effeithiol o dir ac adeiladau ar draws Cymru drwy ymgynghori â chyrff cyhoeddus i ddarganfod pa ganllawiau, gwybodaeth, cymorth neu gymhellion pellach sy’n angenrheidiol i annog dull gweithredu gwell sydd wedi’i gydgysylltu’n well ar gyfer rheoli tir ac adeiladau.

o   Sicrhau bod strategaethau tir ac adeiladau wedi’u diweddaru a’u bod yn cysylltu’n glir ag amcanion corfforaethol ac amcanion y gwasanaeth.

o   Cynnwys yr holl randdeiliaid yn y gwaith o ddatblygu strategaethau datblygu tir ac adeiladau, gyda pherchnogaeth o’r strategaethau ar y lefel uchaf.

o   Datblygu cynlluniau gwasanaeth tir ac adeiladau sy’n cysylltu â’r strategaeth tir ac adeiladau corfforaethol.

o   Integreiddio’r gwaith o reoli tir ac adeiladu â’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, cynllunio gweithluoedd a strategaethau TGCh, gan wneud rhagor i wella defnydd ohonynt drwy ddulliau gweithio hyblyg a rhesymoli tir ac adeiladau.

o   Sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau dros reoli tir ac adeiladau wedi’u diffinio, eu deall a’u cyfathrebu’n glir. [1] 

 

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor

 

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener, 11 Ionawr 2013 fan bellaf. Os ydych yn dymuno cyfrannu ond eich bod yn pryderu na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau, dylech siarad â Chlerc y Pwyllgor ar y rhif029 2089 8409.

 

Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig drwy e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn: PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk erbyn dydd Gwener, 11 Ionawr 2013.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau/gynlluniau Iaith Gymraeg i ddarparu eu hadroddiadau’n ddwyieithog, yn unol â’u polisïau ar ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd.

 

Caiff tystiolaeth ysgrifenedig ei chyhoeddi ar wefan y Pwyllgor, ac mae’n bosibl y caiff darnau ohoni eu cynnwys wedyn yn yr adroddiad. Ni fydd y Cynulliad yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol, ac eithrio barn bersonol a data personol sy’n ymwneud â’ch hunaniaeth fel awdur y dystiolaeth a’r rôl yr ydych yn darparu’r dystiolaeth ynddi (er enghraifft, teitl eich swydd).

 

Fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth (sy’n cynnwys data personol) a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu data personol a ddarperir gennych, yn rhannol neu’n gyflawn. Gall hyn gynnwys data personol a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi (fel y disgrifir yn y paragraff uchod).

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am i’ch hunaniaeth, fel awdur y dystiolaeth, gael ei datgelu, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a'i gais am wybodaeth ar gael yn: www.cynulliadcymru.org

 

Yn gywir

 

Jocelyn Davies

Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid


 Atodiad 1

 

Awdurdodau Lleol

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Sir Caerdydd 

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych      

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Gwynedd

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Sir Fynwy 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castedd-nedd Port Talbot

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Sir Benfro       

Cyngor Sir Powys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

Byrddau Iechyd/ Health Boards

 

Abertawe Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Prifysgol

Aneurin Bevan Bwrdd Iechyd

Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd Prifysgol

Caerdydd  Vale Bwrdd Iechyd Prifysgol

Cwm Taf Bwrdd Iechyd

Hywel Dda Bwrdd Iechyd

Powys Bwrdd Iechyd Addysgu

 

Colegau Addysg Bellach

 

Coleg y Bari

Coleg Pen-y-Bont ar Ogwr

Coleg Ceredigion

Coleg Glan Hafren

Coleg Gwent

Coleg Harlech

Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Menai

Coleg Morgannwg

Coleg Powys

Coleg Sir Gaerfyrddin

Coleg Glannau Dyfrdwy

Coleg Gŵyr Abertawe

Coleg Llysfasi

Coleg Merthyr Tudful

Coleg Castell-nedd Port Talbot

Coleg Sir Benfro

Coleg Catholig Dewi Sant

Coleg Iâl, Wrecsam

Coleg Ystrad Mynach

Canolbarth Cymru

Coleg Ceredigion

Coleg Powys

Gogledd Cymru

Coleg Harlech

Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Menai

Coleg Glannau Dyfrdwy

 

 

Asiantaethau Swyddogol

 

Cyngor Gofal Cymru

Comisiynydd Plant Cymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Swyddfa Archwilio Cymru

Comisiynydd y Gymraeg

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Prifysgolion

 

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Morgannwg

Prifysgol Bangor

Ysgol Fusnes Caerdydd

 

 

Eraill

 

CBI Cymru

Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector yng Nghymru

TUC Cymru

Ffederasiwn y Busnesau Bach

Menter Cymru

NESTA

Aelodau Cymru o Senedd Ewrop



[1] Swyddfa Archwilio Cymru, Briff Cenedlaethol Rheoli Adeiladau, Mehefin 2010 [fel ar 16 Tachwedd 2012]